Termau ac Amodau

Fy mwriad i yw creu profiad siopa sy'n bleserus, yn rhwydd ac yn ddiogel.

Os gwelwch yn dda, darllenwch y telerau a'r amodau sy'n dilyn. Drwy ddefnyddio'r safle hon neu wrth archebu r'ych chi'n ymrwymo i dderbyn y telerau a'r amodau hyn.
Mae pob barn ‘ych chi'n ei weld ar y wefan yn codi o brofiad personol mamigreen gyda'r cynnyrch. Mae pob maint yn faint bras. Efallai na fydd y lliwiau yn union yr un fath â'r rhai ar sgrin eich cyfrifiadur.

Os oes gyda chi gwestiwn nad yw'n cael ei ateb fan hyn, yna cysylltwch â mi.

 

1. Archebu

Dim ond archebion o Brydain y gall mamigreen eu derbyn. Gallwch archebu ar y we a byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau eich archeb. Os yw'n well gyda chi, mae croeso i chi archebu dros y ffôn.

yn ôl i'r cychwyn

2. Talu

Rwy'n derbyn tâl ar ffurf siec, cerdyn debyd neu cerdyn credyd (trwy'r gweinyddwr diogel Secure Trading). Os ydych am dalu â siec, rhaid e-bostio neu ffonio mamigreen a'ch archeb. Dylech wneud eich sieciau'n daladwy i ‘mamigreen' a nodi rhif eich archeb, eich enw a'ch cyfeiriad ar gefn y siec. Anfonwch y siec i mamigreen, 88 Heol Isaf, Radur, Caerdydd, CF15 8EA. Gyda sieciau byddaf yn gyrru'r archebion mas ar ôl i'r siec glirio (cofiwch adael hyd at bum niwrnod gwaith ar gyfer hyn os gwelwch yn dda). Nid yw mamigreen wedi ei chofrestru ar gyfer TAW.

yn ôl i'r cychwyn

3. Anfon

‘Rwyf fi'n anfon yr archebion mas mor fuan â phosib ar ôl i'r cwsmer dalu. Mae hyn yn golygu o fewn 24 awr os ‘ych chi'n talu gyda cherdyn (Llun - Gwener). Dim ond yr eitemau sydd gyda fi mewn stoc y bydda' i'n eu harddangos ond, nawr ac yn y man, pan fydd sawl archeb yn dod ar yr un adeg bydd y stoc yn mynd yn isel. Os nad alla' i anfon eich archeb o fewn 5 diwrnod gwaith fe e-bostiaf i chi gydag amcangyfrif o'r dyddiad y bydd eich archeb yn eich cyrraedd chi. R'ych chi'n rhydd wedyn i ddewis rhwng disgwyl am eich archeb, derbyn rhan o'r archeb, dewis eitem arall neu gael eich arian yn ôl.

yn ôl i'r cychwyn 


4. Dosbarthu

Rwy'n defnyddio un ai gwasanaeth y Post Brenhinol (gyda graddfa uwch o yswiriant iawndal pan yn briodol) neu wasanaeth rhedwas (courier) i ddosbarthu'r nwyddau.  Mae'r gwasanaeth r'yn ni'n ei ddefnyddio'n dibynnu'n hollol ar werth a maint eich archeb. Er mwyn cadw costau post yn isel bydda' i weithiau'n rhannu'r archeb yn ddau. Os ‘wyf fi'n gwneud hynny bydda' i'n rhifo'r parseli. Mae'r gwasanaethau r'yn ni'n eu defnyddio'n dod â'r nwyddau i chi o fewn 3-5 diwrnod o'u postio ond os nad y'ch chi wedi derbyn eich archeb o fewn 14 diwrnod (o'r dyddiad talu), yna cysylltwch â mi er mwyn i mi edrych i mewn i'r sefyllfa. Os y'ch chi angen eich archeb ar frys yna e-bostiwch neu ffoniwch fi i drafod eich anghenion.

DS:

Gyda gwasanaeth rhedwas mae angen i chi fod gartre i lofnodi am eich parsel pan fydd e'n eich cyrraedd chi. Bydd y rhedwas yn dod i'ch tŷ ddwywaith gyda'ch parsel - os yw'n eich methu chi'r ddau dro bydd y parsel yn cael ei ddychwelyd i ni, a hynny ar gost fawr. Rwy' fi'n cadw'r hawl i godi tâl am y costau ychwanegol.

Os yw'ch parsel yn dod yn ôl oherwydd bod y cyfeiriad postio'n anghywir neu'r cwsmer yn ei wrthod yna byddaf yn ad-dalu pris yr archeb - llai'r gost anfon ac yn codi tâl am unrhyw gostau ychwanegol. Os yw eich archeb yn cael ei anfon atoch chi am ddim, yna byddaf yn tynnu cost y postio o'ch ad-daliad.

Ar hyn o bryd mae'r gost am ailddosbarthu neu ailstocio'n £10.

yn ôl i'r cychwyn

5. Costau dosbarthu

Prydain (y tir mawr):

Pris yr archeb

Cost dosbarthu

< £30.00

£1.99

< £50.00

£1.49

< £100.00

£0.99

> £100.00

AM DDIM

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Os ‘ych chi am ddod i mo'yn eich parsel yna, yn amlwg, bydd y pris dosbarthu'n cael ei dynnu o'ch anfoneb.

Rhannau o Brydain heblaw'r tir mawr:

Mae'r prisiau'n gallu amrywio - os yw hyn yn effeithio ar eich archeb byddaf yn cysylltu â chi gyda manylion penodol y costau dosbarthu a bydd croeso i chi ganslo eich archeb os ‘ych chi am.

yn ôl i'r cychwyn

6. Dychwelyd

Rwy'n gobeithio y byddwch yn hapus gyda'ch archeb.

Os nad ‘ych chi'n fodlon, gadewch i mi wybod drwy e-bost cyn gynted â phosib.

Eitemau nad ‘ych chi eu heisiau

Os ‘ych chi'n newid eich meddwl am eitem y byddaf wedi ei anfon atoch chi, rwyf fi'n fodlon ei dderbyn yn ôl os ‘ych chi'n ei anfon e'n ôl o fewn 28 diwrnod heb ei agor, ei olchi na'i ddefnyddio ac os yw e mewn cyflwr digon da i'w ailwerthu. Rydych yn gallu danfon nwyddau sêl neu diwedd llinell yn ôl tufewn i 7 diwrnod am ad-daliad neu am gyfnewidiad. Heblaw fod cewynnau sydd wedi ei archebu (bespoke) yn ddiffygiol, ni allaf derbyn yn ôl. Ni allaf dderbyn cynnyrch gofal babi na chewynnau ail-law yn ôl chwaith.

Byddaf yn ad-dalu'r gost yn llawn am y cynnyrch ond nid y gost o'i anfon a'i ddychwelyd. Os yw eich archeb yn un gafodd ei bostio am ddim yna byddaf yn tynnu cost y postio o'r ad-daliad. Mae'n rhaid i chi dalu cost dychwelyd y nwyddau i ni.

Eitemau diffygiol

Rwyf fi'n gwirio'r holl gynnyrch fy hun cyn eu hanfon ac yn gwneud pob ymdrech posibl i sicrhau ei fod yn eich cyrraedd mewn cyflwr perffaith. Rwyf fi'n gwarantu'r holl gynnyrch, o ddiffygion yn y deunydd i ddiffygion yn y gwneuthuriad, am 28 diwrnod ers dosbarthu'r cynnyrch. Byddaf yn gyrru eitem yn lle'r eitem ddiffygiol neu'n gwneud ad-daliad llawn i'r cwsmer ar ôl derbyn yr eitem yn ôl, a byddaf wrth gwrs yn ad-dalu cyfran deg o gost postio'r eitem yn ôl (Post Brenhinol 2il ddosbarth). Cofiwch gynnwys disgrifiad byr o'r hyn sydd o'i le, rhif eich anfoneb a'ch manylion cyswllt, gan nodi os ‘ych chi angen eitem newydd neu am gael eich arian yn ôl.

Nodwch:

Ni allaf fod yn gyfrifol am unrhyw eitemau sy'n cael eu colli neu eu difrodi yn y post wrth i chi eu dychwelyd nhw i mi. Eich cyfrifoldeb chi felly yw sicrhau fod yr eitemau ‘ych chi'n postio wedi eu hyswirio'n ddigonol. Os ‘ych chi'n ansicr ynglŷn â hyn, cysylltwch â mi i drafod.

Nid yw'r termau uchod yn newid eich hawliau statudol, ac fe ddylech chi nodi'n arbennig fod y Rheolau Gwerthu o Bell (y Distance Selling Regulations) yn berthnasol i archebion ‘ych chi'n gwneud dros y We.

yn ôl i'r cychwyn

7. Canslo archeb

Os ‘ych chi'n dymuno canslo eich archeb am unrhyw reswm cyn i ni ei anfon atoch chi yna cysylltwch â ni drwy e-bost neu dros y ffôn.

yn ôl i'r cychwyn

8. Diogelwch a phreifatrwydd

Rwyf fi'n gofyn am beth gwybodaeth bersonol gennych chi er mwyn gallu prosesu eich archeb. Efallai y byddaf yn cadw eich manylion er mwyn cyfeirio atyn nhw yn y dyfodol. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol ‘wyf fi'n ei gadw'n cael ei ddefnyddio'n unol â Deddf Gwarchod Data 1998. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei basio ymlaen i unrhyw un arall.

Efallai, yn achlysurol, y bydda' i'n anfon e-bost atoch chi am fargeinion neu bethau newydd yn ein stoc. Os nad ‘ych chi eisiau derbyn gwybodaeth o'r fath anfonwch e-bost ataf fi i dynnu'ch enw oddi ar y rhestr.

‘Dyn ni ddim yn cadw manylion cardiau credyd, nac unrhyw gofnod ohonyn nhw ychwaith, unwaith ‘ych chi wedi talu. Er mwyn diogelwch a thawelwch meddwl, mae taliadau drwy gardiau credyd a debyd yn cael eu prosesu gan Secure Trading.

yn ôl i'r cychwyn

9. Cyflwyniad cartref

Dim ond un cyflwyniad cewynnau cartef am ddim. Gall mamigreen codi tâl am unrhyw ymweliad pellach. Does dim disgwyl i chi brynu dim.

yn ôl i'r cychwyn

10. Parti croesawu babi

Ar gael mewn rhai ardaloedd yn unig. Mae'r arddangosfa cynnyrch babi'n cymryd oddeutu 1½ awr. Ni ellir defnyddio disgownt 5% y gwesteiwr gydag unrhyw gynnig arall. Rwyf fi'n rhoi rhodd am ddim i westeiwr y parti pan fydd gwariant o £300 neu fwy yn codi o'r parti (gan eithrio cewynnau tafladwy eco ac ar ôl tynnu gwerth unrhyw gynigion arbennig).

yn ôl i'r cychwyn

11. Pecyn profi

Dyma wasanaeth llogi cewynnau mamigreen. ‘Dyw'r cewynnau ddim yn newydd ond maen nhw mewn cyflwr da ac wedi eu golchi yn unol â chanllawiau PAS er mwyn sicrhau eu bod yn hylan. Y chi fydd yn dewis pa eitemau i'w llogi, hyd at uchafswm o 3 cewyn gwahanol ac un lapiwr gwyn PUL. Mae'r pecyn yn cynnwys sychydd golchadwy a leinin fflîs i'w drïal am ddim (i'w ddychwelyd gyda'r cewynnau). Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys leinins papur tafladwy am ddim. Rydych hefyd yn gallu menthyg peli eco yn ystod y cyfnod llogi.

Mae'r cyfnod llogi'n bythefnos sy'n cychwyn 3 diwrnod wedi i'r pecyn gael ei ddosbarthu. Mae angen dychwelyd y cewynnau o fewn 3 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod llogi neu byddwn yn codi cost ychwanegol. Mae'r gost am ddychwelyd y pecyn yn hwyr yn £6.00 yr wythnos. Bydd unrhyw eitem sydd heb ei ddychwelyd o fewn 4 wythnos i ddyddiad cychwyn y llogi'n dod yn eiddo i chi, ac ni fyddwn yn dychwelyd eich blaendal. Eich cyfrifoldeb chi yw dychwelyd y cewynnau i mamigreen. Rwy'n awgrymu'n gryf eich bod yn codi tystysgrif prawf postio gan eich Swyddfa Bost neu gwneud yn sicr eich bod yn eu hyswirio'n ddiogel er mwyn i chi gael hawlio iawndal gan y Post Brenhinol os nad yw'r parsel yn ein cyrraedd ni. Os ‘ych chi'n ansicr ynglyn â hyn, cysylltwch â mi i drafod.

Rhaid dychwelyd y cewynnau yn gyfan, yn lân a heb eu difrodi. Bydd cost llawn unrhyw eitem sy'n cael ei ddychwelyd wedi ei ddifrodi, neu yn y fath gyflwr nad oes bosib ei ddefnyddio, yn cael ei dynnu o'r blaendal. Golchwch yr eitemau yn yr un lliw golch. Os bydd unrhyw eitem yn newid lliw fel canlyniad o lliw yn rhedeg fe fydd yn cael ei dynnu o'r blaendal.

Mae costau'n cynnwys:

  • ffi weinyddol o £5.00
  • cost llogi o £1.50 yr eitem am y bythefnos
  • £2.99 gwasanaeth postio
  • blaendal o £50.00 fydd yn cael ei ad-dalu wedi i chi ddychwelyd y cewynnau

Gellir ad-dalu'r gost llogi mas o'ch archeb cyntaf dros £100.00. Gadwch nodyn yn y bocs sylwadau yn yr ardal ‘checkout'. Nodwch nad yw'r cynnig hwn yn berthnasol i unrhyw gostau am ddychwelyd cewynnau'n hwyr. Nid yw pecynnau profi yn cael eu postio am ddim. Un pecyn prawf ar gyfer bob tŷ.

yn ôl i'r cychwyn

12. Pecyn prawf / cychwynnol

Fe gewch ddewis hyd at 3 cewyn gwahanol ac 1 lapiwr PUL gwyn. Mae'r pecyn yn cynnwys leinins papur am ddim. Mae arbediad o 5% ar y pecyn o'i gymharu â'r gost lawn arferol. Ni ellir defnyddio'r arbediad mewn cysylltiad ag unrhyw gynnig arall. Un pecyn prawf ar gyfer bob tŷ.

yn ôl i'r cychwyn

13. Cewynnau ail law

Cewynnau oedd gynt yn cael eu harddangos neu gewynnau ail law wedi eu gwerthu'n breifat yw'r rhain. Mae disgrifiad y cewynnau mor gywir â phosibl. Ni all mamigreen gwarantu cewynnau ail law na derbyn rhai nad ‘yn nhw plesio'n ôl. Ni all mamigreen fod yn gyfrifol os bydd parseli cewynnau ail law yn mynd ar goll yn y post. Er, mae'n werth i'r gwerthwr cael ffurflen postio parsel am ddim or Post Brenhinol.

yn ôl i'r cychwyn

14. Cewynnau tafladwy eco

Mae cewynnau Bambo Nature dim ond ar werth i gwsmeriaid lleol gyda dosbarthiad am ddim trwy rhanfwyaf o  Gaerdydd os yw'r archeb yn fwy na £30.00. Rydych yn gallu prynu llai os rydych yn hapus i gasglu. Mae cewynnau Bambo Nature hefyd ar gael i brynu yn sesiynau nappuchino Cafe Junior, Cathays,Caerdydd, CF24 4EH, 10.00yb -12.15yh (bob bore Gwener 1af o'r mis). Mae cewynnau tafladwy eco yn cael eu heithrio o unrhyw gynigion arall ar y wefan.

yn ôl i'r cychwyn

15. Polisi amgylcheddol

Fel busnes sy'n hyrwyddo cynnyrch amgylchedd-gyfeillgar, mae'r polisi amgylcheddol sydd gyda fi - ac sydd wedi ei seilio ar egwyddorion lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu - yn ganolog i weithgaredd mamigreen.

  1. Mae holl waith papur mamigreen wedi ei argraffu ar bapur wedi ei ailgylchu.
  2. Mae'r holl bapur gwastraff yn cael ei ailddefnyddio os yw'n bosib (e.e. fel papur sgrap neu at ddefnydd y plant). Fel arall r'yn ni'n ei rhaflo fe a'i droi e'n gompost.
  3. Ar gyfer deunydd pacio allanol, rwyf fi'n ceisio ailddefnyddio'r deunydd pacio sy'n dod gyda'r cyflenwyr. Fel arall rwyf fi'n defnyddio bagiau newydd eco-poly bioddiraddadwy.
  4. Defnyddir cyn lleied o ddeunydd pacio mewnol ag sy'n bosibl er mwyn lleihau'r defnydd o adnoddau. Er hynny, rwy'n cynnig gwasanaeth lapio lle bydd eich archeb yn cael ei bacio'n foethus ar gyfer achlysur arbennig, ond yn defnyddio deunyddiau cynaliadwy ac wedi eu hailgylchu i wneud hynny.
  5. Os yn bosib byddaf yn ceisio defnyddio'r Post Brenhinol bob tro. Hwn, yn fy marn i, yw'r opsiwn gorau a mwyaf cyfeillgar i'r amgylchedd am nad yw'r post yn gwneud siwrneiau unigol. Ar gyfer rhai archebion mawr lle mae'r gost yn afresymol bydda' i'n defnyddio gwasanaeth rhedwas (courier).
  6. Mae mamigreen yn ymdrechu i arbed egni'n effeithiol ymhob agwedd o'r busnes. Mae hyn yn cynnwys defnyddio'r banc a'r Swyddfa Bost leol, gan fod modd cerdded i'r ddau le.
  7. Wrth ddewis pa gynnyrch i'w gwerthu, mae mamigreen yn canolbwyntio ar wneuthurwyr o Brydain, ac yn arbennig rhai o Gymru, er mwyn lleihau effaith cludiant ar yr amgylchedd. Pan fyddaf wedi dewis cynnyrch o dramor, rhan amlaf oherwydd eu safon uchel, rwy'n sicrhau fod gyda'r cyflenwyr hyn polisïau amgylcheddol cadarn.

yn ôl i'r cychwyn