Sioe Babi Maud
30/05/2009
30/05/2009
Penwythnos ffantastig! Fe ddaeth teuluoedd yn ogystal a menywod beichiog yn eu cannoedd i'r sioe yn Arena Rhyngwladol Caerdydd. Gyda meithrinfa ac adloniant i diddanu'r plantos bach, roedd cyfle gwych i sgwrsio gyda theuluoedd a hyrwyddo cewynnau clwt a chynnyrch gofal babi naturiol. Roedd Rhian o mamigreen a Siân o Ymgyrch Cewynnau Go Iawn (Cymru Gynhaliol) ar law gyda gwybodaeth a chyngor am bopeth o gewynnau clwt i ategolion i wneud bywyd fymryn yn haws. Llongyfarchiadau i Catrin Elai am ennill cystadleuaeth mamigreen. Gobeithio bydd Huw yn mwynhau wisgo cewyn unigrwy mamigreen gan Upsy Daisy Nappies.








