natural babycare  

GOFAL BABANOD

Mae mwy a mwy o rieni yn dod yn ymwybodol am faterion yr amgylchedd a'r holl gemegau sy'n bodoli mewn cynnyrch babi.  Mae croen babi 5 gwaith mwy tenau a thyner na chroen oedolyn, ac felly yn medru amsugno beth i ni fel rhieni yn rhoi arno. A wyddoch bod 60% o gynnyrch sy'n cael ei ddefnyddio ar groen babi yn cael ei amsugno i'w corff? Peidiwch a chredu bod cynnyrch babi yn bûr os ydyw'r label yn dweud hynny. Chwiliwch y label i weld os ydyw'n cynnwys llawer o gemegion.

 

1. Cynhwysion Cemegol

Sodium Lauryl Sulphate (SLS)

Glanedydd sy'n gynwysedig fel cyfrwng ewynnog. Fe ddewch o hyd iddo mewn siampŵ, sebon, pastdannedd, pwdwr golchi, cynnyrch glanhau.  Mae llawer o ddeilliadau o SLS - SLES, DEA, TEA.  Mae eu effeithiau yn debyg.

Parabens

Grŵp o gemegau a ddefnyddir fel cadwolion ym mhethau ymolchi.  Defnyddir hefyd fel ychwanegion at fwyd.

Ammonium Laureth Sulphate

Glanhedydd a ddeillir o blanhigion neu ffynonellau anifeiliaid, ddim mor wenwynig a SLS.

Urea

Defnyddir fel cadwolyn.

Phthalates

Cemegau a ddefnyddir fel toddyddion ac i gyfoethogi persawr. Cynhwysir hefyd mewn paent a phlaladdwyr! Mae'r ddeddfwriaeth gyfredol yn dweud bod dim rhaid i wneuthurwyr ddatgan bod phthalates yn bresennol yn eu cynhyrchion persawr neu peidio.

Persawr synthetic

Mae persawr synthetic yn gallu cynnwys lan i 1,000 o gynhwysion cemegol.

Triclosan

Defnyddir fel cyfrwng gwrthfacteria.

Petrochemicals

Yn cynnwys ‘ propylene glycol' sy'n gyfrwng gwlychu.  Defnyddir mewn golchdrwythau ac hefyd mewn hylif gwrthrewydd!

yn ôl i'r cychwyn

2. Cynhwysion Naturiol

Cnau coco

Helpu i gadw'r croen yn llaith.  Helpu i atal heintiau bacteriol, ffiraol a ffwngaidd.

Olew olewydd

Mae'n esmwytho, lliniaru ac yn cryfhau'r croen yn naturiol.

Cŵyr gwenyn

Mae'n hydradu'r croen ac yn gweithredu fel cadwolyn naturiol.

Rhuddos / gold mair

Yn helpu wella llidiau, yn wych ar gyfer esmwytho a gwella briwiau, cleisiau a phoenau eraill sy'n ymwneud â'r croen.  Mae'n wrthocsidydd cryf ac yn wrthfacterol.

Llysiau'r cwlwm

Perlysiau iachol a ddefnyddir ar gyfer gwella clwyfau, doluriau, llosgiadau a meinweoedd wedi chwyddo. Mae'n lleithio ac yn esmwytho.

Aloe vera

Mae'n wrthlidiol ac yn hysbys fel iachawr clwyfau.

Tea Tree

Antiseptig, germladdwr, gwrthfacterol ac yn ffwngleiddiad.

Lafant

Antiseptig ac yn gallu gwella poen.  Yn hepu i ymlacio.

Rhosmari

Perlysieuyn adfywiol sy'n cael ei ddefnyddio fel diheintydd, tonic a phoenleddfwr ysgafn.

Cywarch

Yn gyfoethog yn omega 3 a 6 ac yn amsugno'n syth i'r croen gyda llawer o fanteision.

Camomil

Yn help i ymlacio ac yn olew sy'n esmwytho a gwella briwiau.

yn ôl i'r cychwyn

3. Toddiannau sychydd golchadwy

Gallwch ddefnyddio nifer o doddiannau gyda'ch sychyddion golchadwy, ond dŵr plaen sydd orau i fabanod newydd-anedig, gan fod eu croen yn arbennig o sensitif. Fel arall, ceisiwch un o'r toddiannau isod (fel gyda unrhyw gynnyrch babi newydd, gwnewch brawf patch yn gyntaf). Am nad oes cynhwysion preserfol yn y toddiannau, dylech newid bob ychydig ddyddiau.

Toddiant syml

  • 240ml dŵr twym
  • 5ml golchiad babi organig
  • 15ml olew cariwr (e.e. olew almon)

Toddiant Camomile (gwych ar gyfer penolau tost)

  • 1 cwpaned (240ml) o de Camomile wedi oeri tipyn
  • 5ml golchiad babi organig
  • 15ml olew cariwr (e.e olew almon)

Toddiant Lafant / Tea Tree

  • 240ml dŵr twym
  • 1 diferyn olew Lafant neu Tea Tree
  • 5ml golchiad babi organig
  • 15ml olew cariwr (e.e olew almon)

Mae tair ffordd i ddefnyddio'r toddiannau a gallwch arbrofi i ddarganfod y dull sydd orau gennych:

  • Gallwch gadw'r sychyddion yn y toddiant yn barod i'w defnyddio, fel rhai tafladwy. Defnyddiwch Tupperware â chaead at hyn.
  • Gallwch eu cadw yn sych a'u dipio fel bod angen yn y toddiant.
  • Gallwch gadw y toddiant wrth law mewn potel chwistrellu.

I arbed eich babi rhag oeri wrth newid, beth am gadw'r toddiant mewn fflasg yn barod i'w ddefnyddio drwy gydal y dydd.

yn ôl i'r cychwyn