Cyngor cewynnau
Mae sawl enw ‘da'r cewyn clwt - cewyn golchadwy, cewyn ailgylchadwy, cewyn ailddefnyddiadwy, cewyn gwir, cewyn cotwm, cewyn naturiol a chewyn na ellir ei daflu! Rwyf fi'n cyfeirio atyn nhw i gyd ar y wefan hon fel cewyn clwt. Er bod y dudalen yma'n hir, mae'n werth ei darllen achos ei fod yn llawn cewynwybodaeth.
1. Pam cewynnau clwt
Mae na sawl rheswm am ddewis cewynnau clwt - gwnaf amlinellu nhw islaw:
Beth sydd mewn cewyn
Mewn cewyn tafladwy mae
70% ohono'n ddeunydd craidd o wlân mwydion papur a chemegolion amsugnol (sodiwm polyacrylate)
10% ohono'n leinin polypropylen
13% ohono'n orchudd polyethylen
7% ohono'n ddeunydd arall (tapiau, elastig, glud)
Mewn cewyn clwt mae
82% ohono'n cewyn ffibrau meddal naturiol
18% ohono'n lapiwr laminad polywrethan (PUL), fflîs neu gwlân
Pa un fyddai orau ‘da chi i'w roi ar ben-ôl eich babi?
Iechyd
Mae cewyn clwt wedi ei wneud yn bennaf o ddeunyddiau naturiol sy'n golygu nad yw eich babi'n dod i gysylltiad a'r ‘geliau' a'r chemegolion y cewch chi mewn cewyn i'w daflu.
Mae cewynnau clwt yn cadw cluniau'r babi ar wahân ar yr ongl gorau bosib ar gyfer datblygiad cymal y glun. Maen nhw hefyd yn fwy gwarchodol o'r babi pan mae'n troi'n dwdlyn ac yn dechrau cwympo! Ac fe all babanod sy'n defnyddio cewynnau clwt ddysgu defnyddio'r poti yn gynt. Mae'r defnydd yn ‘anadlu' ac yn feddal, ac yn gyfforddus yn erbyn croen eich babi.
Amgylchedd
Pa bynnag fath o gewyn ‘ych chi am ddefnyddio bydd yna effaith o ryw fath ar yr amgylchedd. Mae'r effaith yn fwy trwy defnyddio cewynnau tafladwy.
Mae'n ffaith bod:
angen 4.5 coeden i wneud y cewynnau tafladwy y bydd eich babi eu hangen o'i enedigaeth nes iddo gyrraedd 2.5 mlwydd oed. angen un llond cwpan o olew crai i wneud un cewyn tafladwy. cewynnau tafladwy'n 50% o swmp gwastraff unrhyw gartref sy'n eu defnyddio. 8 miliwn o gewynnau i'w taflu'n cael eu taflu bob dydd yn y DU. Mae'r rhan fwyaf yn mynd i safleoedd tirlenwi lle maen nhw'n cymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru gan gynhyrchu nwy methan sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang.Ar y llaw arall, mae prif effaith cewynnau clwt ar yr amgylchedd o ganlyniad i'r golchi a'r sychu. Ond yr hyn sy'n wych yw bod ‘da chi reolaeth ar hynny trwy golchi a sychu fel y cyngor yn yr adrannau perthnasol. Yn mis Hydref 2008 fe wnaeth llywodraeth Y Deyrnas Unedig (Department for the Environment, Food and Rural Affairs / DEFRA) gweithredu comisiwn. Datganwyd fod rhieni sydd yn defnyddio cewynnau clwt ac yn sicrhau golch llawn, yn sychu nhw'n naturiol ac yn eu ail ddefnyddio ar blentyn arall yn gallu gostwng effaith cynhesu byd eang gan 40% dros dau mlynedd a hanner, i gymharu â chewynnau tafladwy.
Awgrymiadau eraill ar gyfer yr amgylchedd:
prynwch gewynnau clwt ail law dewiswch ddefnyddiau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd (cotwm organig heb ei drin, neu gywarch neu fambŵ) defnyddiwch sychyddion (wipes) a leinins golchadwy defnyddiwch eich cewynnau clwt ar gyfer mwy nag un plentyn (naill ai ar gyfer eich babi nesaf neu rhowch/gwerthwch nhw i rywun arall) ceisiwch ddysgu'ch plentyn i ddefnyddio'r poti cyn gynted ag sy'n bosib peidiwch â defnyddio cannydd (bleach) i socian neu olchi cewynnau peidio â smwddio cewynnauCost
O ran cost gyffredinol, mae cewynnau clwt yn rhatach o lawer na chewynnau tafladwy. Byddwch yn arbed o leiaf £500 gyda'ch plentyn cyntaf, a mwy na hynny hyd yn oed gydag unrhyw blant sy'n dod wedyn. Mae'r arbediad hwn, wrth gwrs, yn cynnwys costau'r holl gewynnau, trydan, powdr golchi a'r draul ar y peiriant golchi. Yr unig gost sylweddol ar y dechrau yw cost gychwynnol y cewynnau clwt, ond meddyliwch faint o arian y byddwch yn arbed ar ôl hynny. Ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich Undeb Credyd lleol. Mae nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau clwt sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciau eu hd-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.Hefyd mae nifer o Awdurdodau Lleol yn annog y defnydd o gewynnau clwt drwy gynnig tâl anogaeth. Ewch i'r dudalennau ‘cynlluniau anogaeth' a 'chynlluniau undeb credyd' (Cymru) am fwy o wybodaeth. Os oes ganddoch tocyn i wario o'ch Cyngor, e-bostiwch mamigreen gyda'ch archeb.
Mae hefyd yn werth cofio bod yna farchnad ar gyfer cewynnau clwt ail-law. Unwaith mae'ch plentyn wedi dysgu defnyddio poti gallwch werthu eich cewynnau ac adennill ychydig o'r gost. Mae bod yn wyrdd yn costio mwy fel arfer, ond dyma un pryniant sy'n amgylchedd-gyfeillgar ac yn arbed arian i chi hefyd!
Hawdd eu defnyddio a'u golchi
Mae'r hen ddyddiau o blygu cewyn, defnyddio pinnau a berwi clytiau wedi hen fynd!
Mae cewynnau clwt y dyddiau hyn wedi eu siapio fel cewyn tafladwy ac yn clymu gyda felcro neu fotymau popper. Does dim angen socian cewynnau ar ôl eu defnyddio - gellir eu storio nhw mewn bwced neu fag ac yna eu golchi ar dymheredd mwyafswm o 60°C bob 2 -3 diwrnod.
![]()
Llawn hwyl hefyd!
Mae cewynnau clwt modern yn ffitio'n slim ac mae'r lapiwrs yn dod mewn dewis mawr o liwiau a dyluniadau cyffrous i gyd-fynd â gwisg eich babi - sy'n caniatáu i'ch babi wisgo mewn steil yn ogystal â gwneud safiad dros yr amgylchedd!
2. Cydrannau'r cewyn clwt
Mae cewyn clwt yn cynnwys 4 rhan, er nad yw pob rhan yn angenrheidiol - ychwanegiadau dewisol yw rhai ohonyn nhw:
Y Cewyn
Pad syml wedi ei lunio o nifer o haenau o ddefnydd sy'n gwneud y gwaith amsugno. Mae'r defnyddiau'n cynnwys cotwm, bambŵ, cywarch (hemp), minky a microterry. Maen nhw'n gallu bod â siâp cewynnau tafladwy ac maen nhw'n clymu gydag aplix, botymau popper neu fachau gafael. Fel arall fe allen nhw fod yn gewynnau fflat ac angen eu plygu, fel sgwariau tery, neu'n pad hirsgwar o ddefnydd r'ych chi'n ei blygu.
Y Cyfnerthydd / Darn Mewnosod
Pad o haenau o ddefnydd ry'ch chi'n ei ddefnyddio gyda'r cewyn i'w helpu i amsugno mwy o ‘ddŵr'. Gall cael ei wneud o'r un defnyddiau â'r prif gewyn. Mae cyfnerthydd yn hanfodol pan fydd babi'n cychwyn cysgu trwy'r nos ac mae angen i'r cewyn weithio am 10-12 awr.
Y Leinin
Haen denau sy'n leinio tu mewn y cewyn. Mae'n dal y baw, ond yn gadael i'r dŵr fynd trwyddo i'r cewyn sy'n ei amsugno. ‘Dyw leinin ddim yn hanfodol, ond mae e'n hwylus. Gallwch ddewis rhwng papur bioddiraddiol y gallwch chi ei olchi i lawr y toiled neu ei roi yn eich tomen gompost, a fflîs y gallwch ei olchi gyda'r cewynnau a'i ail ddefnyddio (unwaith i chi gael gwared ar y baw i lawr y toiled!). Gyda leinin papur mae'n bwysig torri'r papur i ffitio'r cewyn yn hytrach na'i blygu. Mae gan rai cewynnau a chyfnerthwyr haen o fflîs ynddynt beth bynnag ac felly does dim angen leinin ar wahân.
Y Lapiwr
Dyma'r haen allanol sy'n dal y dŵr ac yn cadw dillad eich babi'n sych. Oherwydd hynny mae'n bwysig ei fod yn ffitio'n dda ac mae angen gwneud yn siŵr fod pob rhan o'r cewyn wedi ei dycio i mewn i'r lapiwr fel bod dimbyd yn gollwng! Mae'r lapiwr fel arfer yn ddarn ar wahân i'r cewyn ei hun ond mae ambell un wedi ei wnïo i'r cewyn, sy'n fwy cyfleus. Mae rhai lapiwrs wedi eu cryfhau gyda chwysed (gusset) o gwmpas lle bydd y coesau - mae hyn yn cynorthwyo'r cewyn i ddal popeth i mewn yn well, sy'n grêt dros cewynnau ‘o'r enedigaeth i'r poti. Does dim angen newid y lapiwr mor aml â'r cewyn ei hun. Yn gyffredinol, mae lapiwrs wedi eu gwneud o laminiad polywrethan (PUL); ond mae fflîs neu wlân hefyd yn opsiwn. Mae modd cymysgu a defnyddio cewynnau a lapiwrs gwahanol gwmnïau gyda'i gilydd. Maen nhw'n dod mewn lliwiau plaen a gyda lluniau a phatrymau o bob math.
3. Faint sydd eu hangen
Mae hyn yn dibynnu ar faint o gewynnau ‘ych chi am eu defnyddio, pa mor aml ‘ych chi am eu golchi a sut ‘ych chi am eu sychu nhw. Yn amlwg, y mwyaf i gyd o gewynnau sydd gennych chi y lleiaf i gyd y bydd angen eu golchi. Golchi pob 2 neu 3 diwrnod fyddai'n ddelfrydol mae'n debyg gan y bydd hyn yn golygu bod gyda chi olch llawn.
Os ‘ych chi am ddefnyddio cewynnau a lapiwrs ar wahân yna bydd angen llai o lapiwrs nag o gewynnau gan nad oes angen rhoi lapiwrs i'w golchi bob tro y byddwch chi'n newid cewyn.
Felly, ar gyfer babi newydd ei eni byddwn i'n argymell cael oddeutu 24 cewyn a 5 neu 6 lapiwr. Efallai y bydd angen rhagor o lapiwrs os ‘ych chi'n defnyddio cewynnau fflat gan nad ‘yn nhw'n ffitio cystal â chewyn siâp. Pan fydd eich babi yn ddigon mawr i gewyn maint 2 r'ych chi angen oddeutu 18-20 cewyn a 4-5 lapiwr o wahanol faint (gan y byddwch yn newid cewynnau'n llai aml). Mae modd dod i ben â llai na hynny os ‘ych chi'n golchi pob dydd neu os ‘ych chi am sychu'ch cewynnau mewn peiriant.
Os oes gyda chi mwy nag un babi'n defnyddio cewynnau o'r un maint, bydd gyda chi angen oddeutu 11/2 gwaith y nifer uchod o gewynnau, gan y bydd eich peiriant golchi'n llenwi ynghynt. Bydd dal angen dwbl y cyfanswm o lapiwrs arnoch chi serch hynny.
4 Gwahanol fathau o gewyn clwt
Mae pedwar gwahanol fath sylfaenol o gewyn clwt, er gall cewyn perthyn i fwy nag un categori. Edrychwch ar yr siart categorïau cewynnau os rydych yn drysu.
Cewyn fflat
Pad hirsgwar neu sgwâr tery/mwslin r'ych chi'n ei blygu. Gallwch blygu sgwariau tery a sgwariau mwslin yn y ffordd draddodiadol neu eu plygu'n hirsgwar a'u dal yn eu lle gyda lapiwr sydd â aplix. Os ‘ych chi'n plygu'r cewyn yn y ffordd draddodiadol r'ych chi'n gallu ei glymu'n dynn gyda bach gafael wedi ei osod y tu mewn i'r lapiwr.
R'ych chi'n gallu ei defnyddio nhw at bob math o waith, maen nhw'n sychu'n gyflym ac maen nhw'n rhad - ond mae plygu'r sgwâr yn cymryd amser ac mae'n gallu bod yn drafferthus os oes ‘da chi babi gwinglyd. Mae mwslin yn opsiwn gwych ar gyfer babi sy' newydd ei eni ac angen ei newid yn gyson oherwydd, gyda bod mwslin yn sychu'n gyflym, mae bob amser un sych ar gael. Mae sgwariau tery'n gallu edrych yn drwm, ond mae hynny'n dibynnu ar yr union ddefnydd.
Mae cewyn pad hirsgwar yn gewyn ffabrig wedi ei badio gyda defnydd mwy trwchus ar draws y canol. I ddefnyddio un o'r rhain r'ych chi'n eu plygu'n siâp hirsgwar ac yn eu gosod mewn lapiwr sydd â chwysed ac sy'n ffitio'n dda.
Mae eu pris nhw'n rhesymol ac maen nhw'n eithaf gyflym i'w plygu, eu defnyddio, a'u sychu ond ‘dyn nhw ddim cystal am ddal baw ag yw sgwâr wedi ei blygu neu gewyn siâp.
Cewyn siâp
Cewyn sydd wedi ei deilwra i ffitio'n union fel cewyn tafladwy. Mae pad rhydd y tu fewn i lawer ohonyn nhw sy'n eu helpu i sychu'n gyflymach na chewyn â phanel canol trwchus. R'ych chi'n cau'r cewyn gyda botymau popper, aplix neu fachau gafael. Mae gyda chewyn siâp angen lapiwr. Mae pris a maint y cewyn, a pha mor gyflym mae e'n sychu, yn amrywio yn ôl y defnydd. Fel gyda chewynnau fflat, mae'n cymryd mwy o amser i newid babi o'i gymharu â rhai eraill am fod angen gosod cewyn a lapiwr ar y babi. Er hynny, mae'n system ddibynadwy sy'n ffitio'n dda ac yn cynnig dwy haen i gadw dillad eich babi rhag sarnu.
Cewyn poced
Mae cewyn poced (sydd weithiau'n cael ei alw'n gewyn stwffiadwy) yn gweithio yn yr un ffordd â'r cewyn siâp (uchod). Mae'n cynnwys haen o ddefnydd allanol a haen o fflîs (fel arfer) wedi ei wnïo y tu mewn iddo. Mae hyn yn creu poced yn y cefn neu'r blaen ar gyfer y mewnosodiad ‘ych chi ei angen. Mae gyda rhanfwyaf o gewynnau poced du fas sy'n dal dŵr (dewis da os nad ‘ych chi am drin cewyn gwlyb) tra bo rhai eraill - nad oes gorchudd dal dŵr gyda nhw - angen lapiwr. ‘Wedwn i fod y cewyn yma hanner ffordd rhwng cewyn siâp a chewyn cynhwysfawr! Mantais cewyn poced yw'r dewis mae e'n gynnig i chi o ran penderfynu pa drwch o bad amsugno ‘ych chi eisiau, er enghraifft, mewnosodiad tenau ar gyfer y dydd ac un trwchus ar gyfer y nos. Ma' fe hefyd yn sychu'n sydyn oherwydd bod y mewnosodiad yn sychu ar wahân i'r cewyn. Cofiwch stwffio'r cewyn cyn ei ddefnyddio!
Cewyn cynhwysfawr (All in One)
Cewyn siâp wedi ei wnïo i'r lapiwr. Yn dibynnu ar y cynllun mae rhai cewynnau cynhwysfawr angen mwy o amser i sychu na chewynnau eraill. Y cewyn cynhwysfawr yw'r drytaf o'r cewynnau clwt ond mae'n hynod o hwylus. Mae'n hanfodol fod y cewyn yn ffitio'n dda hefyd er mwyn osgoi unrhyw ollwng.
5. Meintiau
Mae cewynnau fflat ar gael mewn dau neu dri maint er mwyn cyd-fynd â thwf eich babi. Mae'r rhan fwyaf o gewynnau poced, cewynnau cynhwysfawr a chewynnau siâp yn dod mewn dau faint, a dyma'n sicr y rhai sy'n ffitio orau. Os ‘ych chi am gael mwy nag un babi, bydd llai o ddefnydd ar gewynnau o wahanol faint, sy'n golygu y byddant yn para'n well.
Mae cewynnau ‘o'r enedigaeth i'r poti' (GIP) yn gewynnau un maint sy'n ffitio o gyfnod geni'r babi nes ei fod e'n cychwyn defnyddio'r poti. Mae cewynnau GIP ar gael fel cewynnau fflat, siâp,cewynnau poced a chewynnau cynhwysfawr. R'ych chi'n addasu nhw ar gyfer babi newydd ei eni drwy blygu'r blaen i lawr ac mae rhagor o fotymau popper gyda nhw i ganiatáu hynny. Maen nhw'n ysgafn ar y pwrs am nad oes angen prynu mwy o gewynnau wrth i'ch babi dyfu ac maen nhw'n ddewis da hefyd os oes gyda chi mwy nag un plentyn mewn cewynnau gan y bydd yr un cewyn yn ffitio'r ddau blentyn. Anfantais cewyn o'r math hwn yw ei faint ar fabi newydd ei eni - mae'n drwm ac yn swmpus - ac mae posib i dwdlyn sy'n araf i ddysgu defnyddio'r pot, dyfu allan ohono. Mae rhai cewynnau maint 2 yn addas i'w defnyddio fel cewynnau GIP - drwy droi'r defnydd i lawr yn y blaen a'i glymu gyda bachau gafael neu gyda lapiwr sy'n ffitio'n dda nes ei fod yn ffitio fel y dylai.
Mae lapiwrs fel arfer yn dod mewn 3 prif faint, ac mae'n hanfodol eu bod yn ffitio'n dda er mwyn osgoi unrhyw ollwng.
6. Defnyddiau
Mae defnyddiau cewynnau clwt a lapiwrs yn cynnwys:
Cotwm cyffredin
Mae cotwm cyffredin yn amsugnydd naturiol, ond hefyd wrth dyfu'n cael ei chwistrellu gyda mwy o gemegolion nag unrhyw gnwd arall. ‘Dyw e ddim yn bosibl golchi'r holl gemegolion hyn o'r defnydd. Mae cotwm heb ei gannu (unbleached) yn osgoi cemegolion y broses gannu, ond os ‘ych chi am gael rhywbeth purach mae cotwm organig heb ei gannu'n ddewis da. Mae pa mor slim yw cewyn cotwm yn amrywio yn ôl y gwneuthurwr.
Cotwm organig
Defnydd syml, pur sy'n amsugnydd naturiol. Mae cotwm organig yn teimlo'n hynod o esmwyth oherwydd ‘dyw'r ffibrau ddim wedi eu malu gan y cemegau a'r peiriannau sy'n cael eu defnyddio wrth ffermio a chynhyrchu cotwm confensiynol. Oherwydd bod dim o'r cemegau hyn, mae cotwm organig yn llai tebyg o gychwyn alergedd. ‘Dyw e ddim yn cynnwys unrhyw resin gwrth-grebachu ac mae e'n arogli'n lanach am nad yw ei orffeniad yn dibynnu ar y cemegolyn fformaldehyd. Mae pa mor slim yw cewyn cotwm organig fel gyda chotwm cyffredin, yn amrywio o wneuthurwr i wneuthurwr.
Bambŵ
Er nad yw bambŵ'n ddefnydd organig mae'n ddefnydd ‘ecogyfeillgar' sydd â chylch tyfu byr ac sy'n cael ei dyfu heb unrhyw ddefnydd o gemegolion lladd pryfed. Mae'n naturiol wrthfacterol a gwrthffyngol ond yn fwy pwysig mae'n well amsugnydd na chotwm. Mae cewynnau bambŵ'n ffitio'n slim ac yn teimlo'n feddal ac yn llyfn. Mae'n ddefnydd sy'n cadw ei esmwythder wedi golch ar ôl golch, ond mae'n cymryd mwy o amser i sychu na chotwm (oherwydd ei fod yn amsugno mwy o ddŵr). Bydd y rhan fwyaf o gewynnau bambŵ'n sych ar ôl diwrnod braf ar lein ddillad. Maen nhw'n cynnwys ychydig bach o bolyester i gryfhau'r defnydd.
Cywarch (hemp)
Dyma ddefnydd amgylchedd-gyfeillgar arall. Mae gyda chywarch, fel bambŵ, angen dim cemegolion i dyfu ac mae gyda fe hefyd allu gwrthfacterol a gwrthffyngol. Mae'n 10 gwaith cryfach na chotwm, ac felly'n ysgafn ar y pwrs gan ei fod yn para'n hirach na phob defnydd naturiol arall. Fel rhai bambŵ, mae cewynnau cywarch yn amsugno'n dda ac yn ffitio'n slim ond hefyd yn araf i sychu. Maen nhw'n mynd yn stiff mewn ardaloedd dŵr caled, ond ar ôl eu defnyddio am gyfnod hir mae'r broblem yn mynd yn llai wrth i ffibrau'r cywarch feddalu.
Microterry
Mae microterry'n 100% polyester, yn ysgafn, yn amsugno'n dda ac mae gyda fe allu gwrthfacterol. Dyma cewyn sy'n sychu'n gyflym ac mae'n aros yn ystwyth wedi ei olchi dro ar ôl tro. Dyw e ddim yn opsiwn da os ‘ych chi am osod defnydd naturiol ar groen eich babi nac os yw'r tywydd yn boeth, a gan ei fod yn synthetig ‘dyw e ddim yn anadlu cystal. Mae'n dueddol hefyd o ddenu fflwff a lint yn y peiriant golchi dillad sy'n dipyn bach o ddiflastod. Mae'n gwneud cewyn gweddol slim.
Minky
Mae minky'n ddefnydd plwsh wedi ei wneud o 100% polyester. Gan ei fod yn synthetig ‘dyw e ddim yn anadlu cystal a defnydd naturiol. Dyma cewyn sy'n sychu'n gyflym ac mae'n aros yn ystwyth wedi ei olchi ac yn teimlo'n feddal ac yn llyfn. Mae'n gwneud cewyn gweddol slim.
Fflîs
Mae fflîs yn ddefnydd synthetig sy'n cael ei ddefnyddio fel leinin neu lapiwr. Mae'n ddefnyddiol am nad yw e'n amsugno ac felly ddim yn dal gwlybaniaeth. Mae'n sychu'n gyflym iawn.
Fel leinin mae gyda fflîs natur aros yn sych ac mae'n tynnu'r tamprwydd o ben ôl y babi ac i'r cewyn. Felly, tra bo'r cewyn yn gallu amsugno bydd pen ôl eich babi'n sych.
Fel lapiwr ‘dyw fflîs ond yn wirioneddol addas ar gyfer defnydd nos am nad yw'n dal pob dŵr ond mae'n ddefnydd sy'n anadlu ac felly'n caniatáu i beth o wlybaniaeth y cewyn anweddu yn ystod y nos. Mae hynny'n golygu y bydd y cewyn ychydig yn fwy sych yn y bore mewn lapiwr fflîs na mewn lapiwr PUL.
PUL
Mae laminad polywrethan (PUL) yn ffabrig polyester wedi ei weu sydd â haen denau o bolywrethan wedi ei lamineiddio iddo. Mae'n feddal, yn ymestyn ac yn dal dŵr sy'n ei wneud yn ddelfrydol fel lapiwr bob dydd. Mae lapiwrs PUL yn sychu'n gyflym iawn.
Gwlân
Defnydd naturiol sy'n anadlu ac sy'n cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer lapiwrs nos, mae'n berffaith ar gyfer babis sydd â chroen sensitif. Fel gyda fflîs, dyw e ddim yn dal dŵr ond mae aer yn cylchu trwyddo ac yn caniatáu i'r gwlybaniaeth anweddu. Mae'n ddefnydd amgylchedd-gyfeillgar oherwydd ei fod yn adnewyddol ac yn bioddiraddio. Yr oll sydd angen i chi ei wneud fel arfer ar ôl defnyddio'r lapiwr yw gadael iddo awyru. Mae gwlân yn naturiol wrthfacterol a gallwch ddefnyddio lapiwrs am hyd at bythefnos cyn eu golchi (oni bai eu bod yn frwnt). Mae angen trin y gwlân gyda lanolin nawr ac yn y man. Mae rhai lapiwrs gwlân angen amser i sychu.
7. Bachau
Yr hyn sy'n dal y cewyn at ei gilydd. Mae tri math o fachyn:
Botymau popper
Mae botymau popper yn gryfach nag aplix. Os ‘ych chi eisiau cewyn sy'n para ‘o'r enedigaeth i'r pot' neu am ddefnyddio cewyn ar gyfer mwy nag un plentyn, botymau popper yw'r dewis gorau oherwydd y bydd llawer o ddefnydd o'r cewyn. Ar y lapiwr mae'r botymau popper yn cau o gwmpas y wasg a'r coesau sy'n golygu bod modd addasu'r maint - sy'n ddewis da i unrhyw un gyda babi â gwasg fechan a choesau tew, neu fel arall. Mae gydag ambell gewyn a lapiwr botymau popper i fyny'r ochr ac mae modd eu defnyddio felly fel ‘pull ups' pan fydd y plentyn yn dwdlyn (toddler). Mae lapiwr gyda botymau poppers yn gallu edrych ychydig yn fawr o'i gymharu â lapiwr aplix.
Aplix/ YKK/felcro
Mae aplix / YKK / felcro i gyd yn debyg i'w gilydd. Maen nhw'n haws ac yn clymu'n gyflymach na botymau popper, ac mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer babanod gwinglyd. Maen nhw hefyd yn haws i'r plentyn eu tynnu pan fydd wedi tyfu'n dwdlyn! ‘Dyw hyn ddim yn broblem fel arfer gan nad yw'r babi'n gallu datod ei gewyn unwaith y bydd ei ddillad amdano. Mae'r math hwn o fachyn yn hawdd ei addasu a hwn fel arfer y bydd pobl yn ei ddewis gyda lapiwr cewyn fflat. Mae angen mwy o ofal gyda nhw ac mae'n bwysig cofio cau'r tabiau cyn eu golchi fel nad ‘yn nhw'n gafael mewn dillad eraill neu'n hel darnau o fflwff. Maen nhw'n gallu achosi rhwbio o gwmpas y wasg ac felly os oes croen sensitif gyda'ch babi fe all fod botymau popper yn well dewis.
Nappi Nippas
Nappi Nippas yw'r pinnau modern! Mae gyda nhw grafangau bach ar 3 braich sy'n ymestyn ac yn gafael yn y gewyn. Mae'r crafangau ychydig bach yn siarp ac felly mae'n syniad da eu cadw o gyrraedd y plant pan nad ‘ych chi'n eu defnyddio. Maen nhw ychydig yn drafferthus i gychwyn, ond maen nhw'n ffitio'n dwt iawn. ‘Dyw Nappi Nippas ddim mor hwylus a chyflym i'w defnyddio â botymau popper ac aplix, ac oherwydd hynny dim ond cewynnau siâp sy'n cau â botymau popper ac aplix rwyf fi'n eu stocio. Er hynny, mae gyda fi Nappi Nippas i'w gwerthu am eu bod yn ddefnyddiol gyda chewyn fflat ac yn gwneud cewynnau maint 2 i ffitio fel cewyn ‘o'r enedigaeth i'r poti.
8. Storio
Rwyf fi'n argymell storio sych, hynny yw, peidio â socian cewynnau wedi eu defnyddio ond yn hytrach eu storio'n sych. Y cyfan ‘ych chi'n wneud yw towlu'r baw i'r toiled ac yna gosod y cewyn budr mewn bwced â chaead arni neu mewn bag mawr sy'n cau gyda chorden. ‘Does dim angen i'r cewyn fod yn hollol lân. Pan fydd hi'n gynnes bydd arogl drwg yn siŵr o godi o'r bwced neu fag cewynnau wrth i chi agor y bag neu dynnu'r caead oddi ar y bwced (ond bydd e ddim gwaeth na bin yn llawn o gewynnau tafladwy brwnt). Mae delio gyda hyn yn hawdd - rhowch tropyn neu ddau o olew lafant neu olew tea tree ar glwtyn tamp a'i osod ar ben y cewynnau.
Os yw'n well gyda chi socian y cewynnau, dodwch nhw mewn bwced o ddŵr wedi i chi gael gwared â'r baw i lawr y toiled. Efallai y bydd y dŵr yn drewi a bydd angen ei newid bob dydd. Gallwch roi ychydig o hylif glanhau cewyn, Nappy Fresh er enghraifft, yn y dŵr neu dropyn neu ddau o olew lafant neu olew tea tree. Os ‘ych chi'n socian cewynnau lliw mae perygl iddyn nhw golli eu lliw ac fe all lapiwrs ddirywio o'u socian. Ond mae socian cewynnau heb eu cannu neu rai gwyn yn gallu eu cadw rhag staenio.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn storio'n sych yn y diwedd am ei fod yn haws. ‘Does dim angen newid dŵr drewllyd, ‘does dim bwcedi trwm i'w cario, dim llanast wrth drosglwyddo cewynnau i'r peiriant golchi dillad ac mae'n fwy diogel os oes plentyn bach yn y tŷ am fod dim dŵr i'w sarnu.
9. Golchi
Mae angen golchi cewynnau newydd o leiaf dwy neu dair gwaith cyn eu defnyddio cyn y byddan nhw'n amsugno'n iawn. Fel lliain sydd wedi ei ddefnyddio sawl gwaith mae cewyn yn gwella o'i ddefnyddio.
Os ‘ych chi'n storio'ch cewynnau'n sych, dodwch nhw yn y peiriant golchi a bydd eu golchi ar dymheredd o ddim mwy na 60°C yn ddigon i'w glanhau'n hylan. Os ‘ych chi'n socian eich cewynnau, arllwyswch y dŵr i lawr y toiled cyn rhoi'r cewynnau yn y peiriant golchi dillad. Os ‘ych chi'n defnyddio hylif glanhau cewyn does ond angen i chi olchi'r cewynnau ar dymheredd o 40°C. Os rydych yn defnyddio Tots Bots Potion, allwch golchi eich cewynnau ar 30°C oherwydd bod y powdr golchi yma yn lladd bacteria ar wres isel - ac heb angen socian hyd yn oed.
Os yw eich peiriant golchi'n cynnig rins dŵr oer cyn y prif olch, bydd hyn yn cael gwared ar y gwaethaf o'r baw a'r iwrin. Byddwn yn eich cynghori nawr ac yn y man i wneud un rins ychwanegol i gael gwared ar unrhyw sebon sydd wedi casglu ar y cewynnau.
Dylech chi olchi cewynnau lliw ar wahân i gewynnau heb eu cannu neu gewynnau gwyn am y troeon cyntaf rhag ofn i'r lliw redeg.
Gallwch olchi lapiwrs rhan amlaf ar dymheredd o 60°C ond byddan nhw'n para'n hirach drwy eu golchi gyda'ch dillad ar dymheredd o 40°C. Dylech chi olchi lapiwrs gwlân mewn dŵr llugoer gyda sebon olew olewydd neu siampŵ gwlân a hefyd trin y gwlân gyda lanolin unwaith y mis. Mae lapiwrs gwlân mamigreen i gyd yn rhai y gallwch eu golchi mewn peiriant golchi.
Fel y dywedais mewn man arall, mae modd lleihau effaith y golchi ar yr amgylchedd drwy wneud rhai neu bob un o'r canlynol:
defnyddio peiriannau a theclynnau safon ‘A' golchi'r cewynnau ar dymheredd o ddim mwy na 60°C storio'r cewynnau'n sych ar ôl eu defnyddio defnyddio hanner eich swm arferol o bowdr golchi ecogyfeillgar neu peli eco peidio â defnyddio cannydd (bleach) peidio â defnyddio cyflyrydd ffabrig
10. Sychu
Sychu ar y lein ddillad yw'r ffordd orau o lawer a ‘dyw e'n costio dim. Bydd y cewynnau'n arogli'n hyfryd ac yn ffres, ac os oes unrhyw symudiad yn y gwynt byddant yn hyfryd o feddal. Bydd yr haul (pan mae'n tywynnu!) yn cannu unrhyw staeni hefyd. Os ‘ych chi'n sychu yn y tŷ, siglwch y cewynnau ac yna dodwch nhw i sychu mewn lle cynnes lle mae'r aer yn cylchu'n dda. Bydd cewynnau sydd wedi sychu ar foiler neu wresogydd yn stiff a chaled.
Er nad yw defnyddio peiriant sychu dillad yn amgylchedd-gyfeillgar, mae'n gyfleus. Os ‘ych chi'n dewis sychu mewn peiriant ceisiwch wneud hyn i leihau'r effaith ar yr amgylchedd:
defnyddio peiriannau a theclynnau safon ‘A' rhoi lliain sych i mewn gyda'r cewynnau yn ystod y sychu er mwyn lleihau'r amser sychu sydd ei angen defnyddio peli sychu - mae'r rhain yn gallu lleihau'r amser sychu gan 25%Mae rhan fwyaf y gwneuthurwyr peiriannau sychu'n argymell sychu ar dymheredd isel. Bydd y cewynnau'n feddal wedi eu sychu mewn peiriant ond fe all eu sychu fel hyn leihau hyd eu hoes.
Mae modd sychu'r rhan fwyaf o lapiwrs mewn peiriant sychu dillad os oes angen. Gan fod lapiwrs fflîs a PUL yn sychu'n naturiol o fewn ychydig oriau ‘does dim angen eu sychu mewn peiriant, a bydd hyn yn eu cadw mewn cyflwr gwell. ‘Dyw lapiwrs gwlân ar y cyfan ddim yn goddef cael eu sychu mewn peiriant sychu.
11. Pethau bach ychwanegol
Bwced gyda chaead
Bwced gyda chaead ar gyfer socian neu storio cewynnau brwnt. Maen nhw'n dueddol o fod yn fach, felly fe all bod angen dau arnoch chi. Yn ddelfrydol bydd bwced gyda clawr clip fel bwced Tots Bots, maint 16 litr yn dal gwerth 2-3 diwrnod o gewynnau.
Rhwyll cewyn
Bag rhwyd mawr sy'n leinio'r bwced cewynnau ac yn gwneud dyddiau golchi'n llawer haws. Does ond angen codi'r bag llawn cewynnau o'r bwced i'r peiriant golchi a sicrhau bod y llinyn cau'n agored. Bydd y cewynnau'n gweithio eu ffordd allan o'r bag yn ystod y golchi.
Bag mawr sy'n cau gyda chorden
Dewis arall gwych ar gyfer storio cewynnau sych yn lle defnyddio bwced. Yn rhyfedd iawn mae'r aer sy'n cylchdroi o fewn y bag yn lleihau unrhyw arogl o'i gymharu â bwced gyda chaead. Mae'n hyblyg iawn a gallwch ei hongian ar gefn drws neu ei ddefnyddio i leinio bwced cewynnau. Ar ddiwrnod golchi codwch y bag i'r peiriant golchi, agorwch y gorden sy'n cau'r top, dodwch y bag y tu mewn i'r peiriant yn ymyl y drws, gwthiwch y cewynnau allan ohono ac yna taflwch y bag i mewn i'r peiriant. Does dim angen cyffwrdd â'r cewynnau o gwbl! Os ‘ych chi'n brin o le yn eich meithrinfa / ystafell ymolchi neu os oes gyda chi dwdlyn bach busneslyd wrth eich ochr, bydd hyn yn help mawr i chi. Mae o hefyd yn ddefnyddiol ar dripiau i ffwrdd oherwydd ei fod yn plygu'n fflat.
Bag cewynnau gwlyb
Ar gyfer newid cewynnau pan fyddwch chi mas o'r tŷ ac ar gyfer cadw unrhyw gewynnau gwlyb ar wahân i'ch bag newid. Gallwch olchi'r bag gyda'r cewynnau.
Sychyddion (wipes) golchadwy
Y dewis gwyrdd yn lle sychyddion tafladwy. Clytiau bach ‘yn nhw, a gellir eu golchi gyda'ch cewynnau a'u defnyddio dro ar ôl tro - sy'n arbed arian i chi yn y pen draw. Mae sychyddion tafladwy'n ddefnydd gwastrafflyd o adnoddau naturiol, maen nhw'n aml yn cynnwys cemegolion cadw ac maen nhw'n ddrud. Drwy ddefnyddio sychyddion tafladwy byddech yn gwario tua £12 pob mis, yn dibynnu ar y gwneuthurwr (tua £360 dros 2½ mlynedd). Gall 20 o sychyddion golchadwy gostio dim ond £11.98 a para am 2 - 3 diwrnod cyn eu golchi a'u hailddefnyddio. Mae hylif sychydd yn rhad i'w wneud, felly fe wnewch arbed llawer o arian wrth ddefnyddio sychyddion golchadwy. Os rydych yn defnyddio cewynnau clwt, bydd defnyddio sychyddion golchadwy ddim yn fwy o waith - storiwch a golchwch gyda'ch cewynnau - a does dim angen eu sychu!
Mae defnyddio dŵr yn unig yn fwy caredig o lawer i groen eich babi - fel arall, beth am wneud hylif sychydd eich hun, (gweler 'gofal babanod' naturiol am ryseitiau). Dylech newid yr hylif bob ychydig o ddyddiau gan nad yw'n cynnwys cemegolion preserfol.
Mae sychyddion golchadwy hefyd yn dda ar gyfer glanhau dwylo ac wynebau brwnt - er hynny byddwn i'n cynghori i chi brynu rhai ar wahân i'r pwrpas hwnnw a'u golchi gyda'ch dillad bob dydd.
Olewau
Mae olew tea tree ac olew lafant yn olewau naws naturiol sydd â phriodweddau antiseptig. Maen nhw'n ddefnyddiol ar gyfer hylifau sychyddion golchadwy, i gadw arogl ffres ar y bag/bwced cewynnau ac fel hylif glanhau cewyn. Fel gyda pob olewau naws naturiol, defnyddiwch yn ofalus, peidiwch a rhoi yn syth ar groen a chadwch allan o ofal plant.
Eli cewyn
Bydd y rhan fwyaf o fabis yn dioddef rhyw dro neu'i gilydd o'r frech gewynnau (nappy rash). Does dim tystiolaeth fod gyda'r math o gewyn, cewyn clwt neu gewyn tafladwy, unrhyw ddylanwad ar ba mor aml y bydd plentyn yn cael y frech. Mae'n rhaid i mi dynnu sylw at fel y gall eli seimlyd orchuddio'r leinin neu'r fflîs yn y cewyn a'u cadw rhag amsugno'r dŵr ac fel y gall hyn achosi i'r cewyn ollwng. Mae unrhyw saim sy'n gorchuddio'r fflîs hefyd yn gallu bod yn lloches germau a allai yn eu tro achosi brech gewynnau. Os oes gyda chi hoff eli seimlyd yr ‘ych chi am ei ddefnyddio yn ystod pwl o'r frech gewynnau, yna cofiwch ddefnyddio leinin tafladwy gydag e. Fel arall beth am bori drwy dudalennau ‘gofal babanod naturiol' y wefan i weld detholiad o elïau cewyn organig a di-gemegolion.
Peli eco
Mae'r peli eco (original eco balls) yma yn gofalu am eich golch, eich peiriant a'r amgylchedd. Maent yn naturiol ac yn rhad (3c y golch) ac yn ddewisiad da yn lle hylif golchi. Mae'r peli yn osgoi niweidio'ch golch a'ch peiriant ac ddim yn achosi llygredd dŵr sy'n gysylltiedig â defnyddio hylif. Mae'r peli yn addas yn enwedig at groen sensitif babi am ei fod yn rhydd o unrhyw cemegolion ac yn llai tebyg o gychwyn alergedd. Mae'r peli yn gwneud i ddefnydd aros yn ystwyth hyd yn oed mewn ardaloedd dŵr caled. Mae gyda nhw hefyd gallu gwrthfacterol, yn lladd E. Coli a bacteria S. Aureus. Mae'r ffeithiau yma yn gwneud peli eco yn ddewisiad gwych ar gyfer golchi cewynnau. Hefyd rydych yn osgoi'r posibilrwydd o sebon yn casglu ar y cewynnau (sydd yn gallu digwydd ‘da hylif ac yn creu cewynnau drewllyd). Maent yn hawdd eu defnyddio - rhowch y peli tro ar ôl tro yn y peiriant yn lle hylif a golchwch fel arfer.
Peli sychu
Mae'r peli sychu ailddefnyddiadwy (original dryer balls) yma wedi eu gwneud o rwber ac wrth gosod yn y peiriant sychu meant yn lleihau yr amser sychu hyd at 25%, yn ystwytho defnydd ac yn lleihau crychu a lint yn y peiriant.




















Mae angen golchi cewynnau newydd o leiaf dwy neu dair gwaith cyn eu defnyddio cyn y byddan nhw'n amsugno'n iawn. Fel lliain sydd wedi ei ddefnyddio sawl gwaith mae cewyn yn gwella o'i ddefnyddio.
Sychu ar y lein ddillad yw'r ffordd orau o lawer a ‘dyw e'n costio dim. Bydd y cewynnau'n arogli'n hyfryd ac yn ffres, ac os oes unrhyw symudiad yn y gwynt byddant yn hyfryd o feddal. Bydd yr haul (pan mae'n tywynnu!) yn cannu unrhyw staeni hefyd. Os ‘ych chi'n sychu yn y tŷ, siglwch y cewynnau ac yna dodwch nhw i sychu mewn lle cynnes lle mae'r aer yn cylchu'n dda. Bydd cewynnau sydd wedi sychu ar foiler neu wresogydd yn stiff a chaled.
