GWASANAETHAU MAMIGREEN
Cyflwyniad Cartref

Os ‘ych chi'n byw tufewn i 10 milltir radiws o Gaerdydd, yna gallwn ddarparu cyflwyniad cewynnau i chi yn eich cartref. Mae'n wasanaeth am ddim, does dim disgwyl i chi brynu dim a does dim angen mynd mas o'r tŷ! Yn ystod yr ymweliad,sydd fel arfer ar dydd Gwener a sydd ran amlaf yn cymryd oddeutu awr a hanner,fe gewch chi deimlo a gweld y cewynnau sydd ar gael gan mamigreen. Bydd unrhyw gyngor gaiff ei roi'n gyngor penodol ar gyfer eich anghenion chi, felly os ‘ych chi'n penderfynu prynu fe allwch fod yn siŵr eich bod wedi dewis y cewyn cywir ar gyfer eich babi, eich ffordd o fyw a'ch pwrs. Y tu fas i'r ardal hon fe alla' i gynnig ymgynghoriad cynhwysfawr a chymorth dros y ffôn. Neu, os rydych yn byw tuallan i'r dalgylch a hoffech cyflwyniad cewynnau neu bod dydd Gwener am cyflwyniad cartref ddim yn siwtio, gallwch hefyd drefnu cyflwyniad cewynnau yn Caerdydd. Cysylltwch i drefnu.
Parti croesawu babi
Mae paratoi ar gyfer genedigaeth eich babi yn gyfnod hapus a phleserus a dyma pam y gall parti croesawu babi fod yn hwyl ac yn gyfle i ddathlu. Os ‘ych chi â diddordeb mewn cael cyflwyniad cewynnau'n rhad ac am ddim yn eich cartref ac yn meddwl y buasai gan rhai o'ch ffrindiau ddiddordeb hefyd, byddai'n gyfle gwych i chi fel gwesteiwr gan y byddech yn derbyn gostyngiad o 5% ar bris cewynnau clwt y byddech yn ei brynu. Hefyd, os yw'r grŵp yn gwario mwy na £300 byddwch chi hefyd yn derbyn rhodd ar gyfer eich babi. Cysylltwch i drefnu.
Pecyn profi
Os ‘ych chi'n penderfynu defnyddio cewynnau clwt ond yn methu â phenderfynu pa rai i'w cael, yna bydd y gwasanaeth hwn yr union beth i chi. Fe gewch ddewis hyd at 3 math gwahanol o gewyn ac 1 math o lapiwr PUL gwyn. Byddwn yn eu gyrru nhw'n lân a ffres atoch chi, ynghyd â chlytiau sychu golchadwy, leinin ffîs a llond llaw o leinins tafladwy am ddim. Mae'r cyfnod prawf yn para hyd at bythefnos. Er na fydd y cewynnau a'r lapiwr yn newydd, byddant mewn cyflwr da ac yn hollol hylan. Cysylltwch i drefnu.
Mae costau'r gwasanaeth hwn yn cynnwys:
-
ffi weinyddol sefydlog o £5.00
-
cost llogi o £1.50 yr eitem am y bythefnos
-
blaendal o £50.00 fydd yn cael ei dalu'n ôl i chi pan fyddwch yn dychwelyd y pecyn
-
£2.99 post ail ddosbarth y Post Brenhinol
Pan fyddwch yn dychwelyd y pecyn, bydd y blaendal yn cael ei dalu'n ôl i chi, llai'r ffi weinyddol a'r costau llogi. Fe allwn godi cost ychwanegol os oes difrod i'r cewynnau neu os yw'r pecyn yn cael ei ddychwelyd yn hwyr.
CYNNIG ARBENNIG
Os, ar ddiwedd y cyfnod prawf, r'ych chi'n penderfynu archebu cewynnau gan mamigreen, byddaf yn ad-dalu'r gost llogi o gost eich archeb gyntaf. Felly at ei gilydd fe all y pecyn profi gostio dim mwy na £5 a thaliadau'r post. Darllenwch y termau ac amodau.
Pecyn prawf / cychwynnol
Os na fedrwch penderfynu pa cewynnau i'w cael a nid ydych yn ffansio'r opsiwn pecyn profi - allwch brynu pecyn prawf / cychwynnol gan arbed 5% ar y cewynnau / lapiwr o'i gymharu â'r gost iawn arferol. Gallwch ddewis 1, 2 neu 3 o gewynnau gwahanol ac unrhyw lapiwr PUL gwyn. Mae'r pecyn yn cynnwys leinins papur am ddim. Darllenwch y termau ac amodau. Cysylltwch i archebu.
Cyngor a chymorth
Mae mamigreen yn cynnig cyngor a chefnogaeth drwy'r amser ar gewynnau clwt a hynny am ba bynnag hyd y mae ei angen arnoch chi. Bydd cychwyn defnyddio cewynnau clwt pan ‘ych chi'n barod i'w defnyddio'n ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch chi'n llwyddo ‘da nhw. Os oes problemau i'w cael wrth ddefnyddio'r cewynnau, yn ystod yr wythnosau cyntaf bydd y rheiny fel arfer. Cysylltwch â mi dros y ffôn neu drwy e-bost a byddaf yn barod bob amser i'ch helpu.
Gwasanaeth Lapio Anrhegion
Rwyf fi'n cynnig gwasanaeth lapio anrhegion lle byddwn yn lapio eich archeb yn foethus ar gyfer eich achlysur arbennig. Cysylltwch â mamigreen i drefnu.







