Dosbarthu

Rwy'n defnyddio un ai gwasanaeth y Post Brenhinol (gyda graddfa uwch o yswiriant iawndal pan yn briodol) neu wasanaeth rhedwas (courier) i ddosbarthu'r nwyddau.  Mae'r gwasanaeth r'yn ni'n ei ddefnyddio'n dibynnu'n hollol ar werth a maint eich archeb. Er mwyn cadw costau post yn isel bydda' i weithiau'n rhannu'r archeb yn ddau. Os ‘wyf fi'n gwneud hynny bydda' i'n rhifo'r parseli. Mae'r gwasanaethau r'yn ni'n eu defnyddio'n dod â'r nwyddau i chi o fewn 3-5 diwrnod o'u postio ond os nad y'ch chi wedi derbyn eich archeb o fewn 14 diwrnod (o'r dyddiad talu), yna cysylltwch â mi er mwyn i mi edrych i mewn i'r sefyllfa. Os y'ch chi angen eich archeb ar frys yna e-bostiwch neu ffoniwch fi i drafod eich anghenion.

DS:

Gyda gwasanaeth rhedwas mae angen i chi fod gartre i lofnodi am eich parsel pan fydd e'n eich cyrraedd chi. Bydd y rhedwas yn dod i'ch tŷ ddwywaith gyda'ch parsel - os yw'n eich methu chi'r ddau dro bydd y parsel yn cael ei ddychwelyd i ni, a hynny ar gost fawr. Rwy' fi'n cadw'r hawl i godi tâl am y costau ychwanegol.

Os yw'ch parsel yn dod yn ôl oherwydd bod y cyfeiriad postio'n anghywir neu'r cwsmer yn ei wrthod yna byddaf yn ad-dalu pris yr archeb - llai'r gost anfon ac yn codi tâl am unrhyw gostau ychwanegol. Os yw eich archeb yn cael ei anfon atoch chi am ddim, yna byddaf yn tynnu cost y postio o'ch ad-daliad.

Ar hyn o bryd mae'r gost am ailddosbarthu neu ailstocio'n £10.

 

Costau dosbarthu

Prydain (y tir mawr):

Pris yr archeb

Cost dosbarthu

< £30.00

£1.99

< £50.00

£1.49

< £100.00

£0.99

> £100.00

AM DDIM

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Os ‘ych chi am ddod i mo'yn eich parsel yna, yn amlwg, bydd y pris dosbarthu'n cael ei dynnu o'ch anfoneb.

Rhannau o Brydain heblaw'r tir mawr:

Mae'r prisiau'n gallu amrywio - os yw hyn yn effeithio ar eich archeb byddaf yn cysylltu â chi gyda manylion penodol y costau dosbarthu a bydd croeso i chi ganslo eich archeb os ‘ych chi am.