Cynlluniau Undeb Credyd Cymru

Bydd cewynnau clwt yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn.  Ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau clwt sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.

 

Undeb Credyd Caerffili

Mae Undebau Credyd yn sefydliadau nid-er-elw sy'n rhoi lle diogel a sicr i gadw benthyciadau cost isel ac i gael gafael arnyn nhw. Y lleiafswm llog sy'n cael ei godi y mis yw 2% o'r balans sy'n gostwng (APR 26.8%). I fod yn gymwys am aelodaeth o Undeb Credyd Caerffili a'r Cylch mae'n rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Ardaloedd Awdurdodau Lleol Caerffili neu Flaenau Gwent. Caiff Undebau Credyd eu cymeradwyo a'u rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). £4.34 yw'r ad-daliad dros 52 wythnos ar fenthyciad o £200, gyda chyfanswm llog o £25.38 os na chollir unrhyw ad-daliad. Gall aelodau wneud taliadau yn y brif swyddfa yng Nghaerffili, Pwyntiau Casglu sydd i'w cael ledled y Bwrdeistrefi, Archebion Sefydlog, PayPoint, Budd-daliadau yn uniongyrchol i'ch Cyfrif Undeb Credyd a Swyddfeydd Ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Caerffili,  Ty ABACUS, 44 Stryd Windsor, Caerffili, CF83 1FW. 029 2088 3751.

 

Undeb Credyd Pen Y Bont Lifesavers

I fod yn gymwys am fenthyciad parod oddi wrth yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae angen i chi hefyd ddarparu prawf o incwm a gwariant. 2% yw'r llog ar fenthyciad parod felly bydd talu benthyciad o £200 dros 50 wythnos yn costio £4.50 yr wythnos. Os byddwch yn cynilo am 8 i 12 wythnos cyn cael y benthyciad bydd y gyfradd llog yn is. Am fwy o fanylion cysylltwch â Undeb Credyd Pen Y Bont Lifesavers, Canolfan Cymunedol Sarn, Merfield Close, Sarn, Pen Y Bont, CF32 9SW. 01656 729 912.

 

Undeb Credyd Credcer Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad parod oddi wrth yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Ceredigion a Dyffryn  Teifi. Mae Credcer yn darparu 3 gwahanol fath o fenthyciad:

  1. Benthyciad Adran Gwaith a Phensiynau - ar gael i rai ar incwm isel ar fudd-daliadau, mae hwn fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer argyfyngau a chodir llog o 2%.
  2. Pwrpas cyffredinol - Mae proses gais a chyfweliad ar gyfer y benthyciadau hyn ond mae'r gyfradd llog yn is ar 1%.
  3. Pwrpas cyffredinol - Gwneir penderfyniad cyflym ar y benthyciad felly nid yw mor sicr ac mae cyfradd ychydig uwch o 2%.

1% yw'r llog ar fenthyciad parod sy'n golygu y bydd benthyciad o £200 a gaiff ei dalu dros 52 wythnos yn costio £4.09 yr wythnos. Darperir yswiriant bywyd am ddim gyda'r holl fenthyciadau sy'n talu'r benthyciad  ac sy'n yswirio unrhyw gynilion yn y cyfrif. Mae 8 pwynt casglu ledled y Fwrdeistref lle y gallwch dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Credcer, 46 Heol St Mary's, Aberteifi, Ceredigion, Cymru, SA43 1HA 01239 621 408 neu e bost admin@credcercreditunion.co.uk.


Undeb Credyd Llanelli

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn ardal Llanelli. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 13 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Rhaid talu'r benthyciad cyntaf yn ôl o fewn blwyddyn. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio £4.15 yr wythnos. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae sawl pwynt casglu yn yr ardal a gallwch chi hefyd dalu eich taliadau wythnosol neu fisol mewn Swyddfeydd Post lleol penodol. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Llanelli, 8 Stryd Bridge,  Llanelli. SA15 3UF. 01554 770867.

 

Undeb Credyd Cymuned Islwyn Cyf - Rhoi Pobl cyn Elw

Os ydych chi'n byw neu'n gweithio yn etholaeth Islwyn yn Ne Cymru (Markham, Cefn Fforest, Y Coed Duon, Pontllan-fraith, Crymlyn, Trecelyn, Crosskeys, Rhisga) rydych chi'n gymwys i ymuno ag Undeb Credyd Cymuned Islwyn. Ar ôl cynilo'n gyson dros leiafswm o 3 mis gallwch chi wneud cais am fenthyciad. Mae benthyciadau cyntaf hyd at ddwywaith eich cynilion. Os ydych chi wedi cynilo £100 gallwch chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio £4.10 yr wythnos. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu ar gynilion a benthyciadau. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref ac mae dulliau eraill o dalu. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Cymuned Islwyn Cyf, Adeilad Undeb Credyd, Heol Wesley, Y Coed Duon, NP12 1BA. 01495 222832.

 

Undeb Credyd Sir Fflint Gyfan Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Sir Fflint. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 12 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca tair gwaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £50 gallech chi fenthyca hyd at £150. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio £3.85 yr wythnos a llog. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Sir Fflint Gyfan Cyf, 2 Stryd Cross, Holywell, Clwyd, CH8 7LP. 01352 715555.

 

Undeb Credyd Caerdydd

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistrefi Sirol Caerdydd neu Fro Morgannwg. Does dim gofyniad i gynilo gyda'r Undeb Credyd cyn cymryd y benthyciad ond mae'n rhaid i chi gynilo ychydig bob wythnos wrth ad-dalu'r benthyciad. £4.10 yr wythnos yw cost benthyciad nodweddiadol o £200 i'w dalu'n ôl dros 12 mis. Caiff hyn ei dalgrynnu i fyny i £5, a chaiff y 90c ychwanegol ei roi mewn cyfrif cynilo.Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Gallwch ad-dalu'r benthyciad trwy archeb sefydlog, mewn Swyddfa Bost gan ddefnyddio'r cerdyn aelodau undeb credyd neu trwy gael incwm neu fudd-daliadau wedi'u talu'n syth i'r undeb credyd. I gael pecyn cais am fenthyciad neu am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Undeb Credyd Caerdydd  ar 02920 872373, Undeb Credyd Caerdydd , Neuadd Y Sir, Atlantic Wharf, Caerdydd. CF10 4UW, ccu@cardiffcu.com http://www.cardiffcu.com/.

 

Undeb Credyd Caledfryn Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Sir Ddinbych i'r de o'r A55. Mae'n rhaid bod gennych leiafswm o £5 yn eich cyfrif cynilion i fenthyca arian. Does dim isafswm y gallwch ei fenthyca a chaiff ad-daliadau eu teilwra yn ôl sefyllfa unigolion. Caiff pob cais am fenthyciad ei asesu yn ôl ei rinweddau ei hun. Bydd  benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio £4.34 yr wythnos. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae 3 phwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi hefyd dalu i Ganolfannau Un Alwad Cyngor Sir Ddinbych, trwy archeb sefydlog, cael eich budd-daliadau wedi'u talu'n syth i'ch cyfrif neu trwy'r gyflogres os ydych chi'n gweithio i'r GIG, Cyngor Sir Ddinbych neu Craig Bragdy Design. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Caledfryn Cyf, 19 Stryd Bridge, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3LF. 01745 817 444.

 

Undeb Credyd Llandudno a'r Cylch Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o  fewn Sir Conwy. I brynu cewynnau go iawn gallwch chi wneud cais am 'fenthyciad hwylus'. Ar ôl i chi wneud eich cais bydd yn mynd i banel a byddan nhw'n penderfynu a gaiff y benthyciad ei gymeradwyo ai peidio. Bydd  benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio £4.50 yr wythnos. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol, neu gallwch chi ddewis cael budd-dal wedi ei dalu'n syth i'ch cyfrif a gallwch naill ai codi'r arian yn y balans neu ei adael yn eich cyfrif fel cynilion. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Llandudno a'r Cylch Cyf, 144 Heol Conwy, Llandudno Junction, Conwy, Gwynedd, LL31 9NP. 01492 580028. http://www.llandudnocu.co.uk/.

 

Undeb Credyd Arfordir Clwyd Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad oddi wrth yr undeb credyd mae'n rhaid i chi fyw neu weithio i'r gogledd o'r A55 o Wesbyr i Bensarn. Mae'n rhaid i chi gynilo am 6 wythnos cyn bod yn gymwys am fenthyciad. Mae 2 fath o fenthyciad ar gael wedyn. Benthyciad normal sy'n caniatáu i chi fenthyca tair gwaith eich cynilion, a 'benthyciad hwylus' sydd heb swm penodol i'w fenthyca. Caiff hyn ei farnu ar eich gallu i ad-dalu. Bydd  benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 50 wythnos yn costio £4.50 yr wythnos. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi dalu hefyd trwy archeb sefydlog, cerdyn debyd, cyflogres neu gallwch chi ddewis cael budd-dal wedi ei dalu'n syth i'ch cyfrif a gallwch naill ai codi'r arian yn y balans neu ei adael yn eich cyfrif fel cynilion. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Arfordir Clwyd Cyf, 17/19 Ty Balfor, Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 1AS. 01745 361274.

 

Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae'n rhaid i bawb sydd am gael benthyciad gael cyfweliad (mae'n arfer aros 3-4 wythnos am apwyntiad) ac yna gwneir penderfyniad. Bydd  benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 45 wythnos yn costio £5 yr wythnos. (Mae cyfradd ratach o fenthyca ar gael os byddwch chi'n cynilo gyda'r undeb credyd cyn cymryd benthyciad). Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi dalu hefyd trwy archeb sefydlog neu gallwch chi ddewis cael budd-dal wedi ei dalu'n syth i'ch cyfrif i dalu'ch benthyciad yn gynt neu ei adael y balans yn eich cyfrif fel cynilion. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful Cyf, 19 Park Place, Merthyr Tudful, CF47 0DJ. 01685 377888.

 

Undeb Credyd Castell-nedd Port Talbot Cyf

Mae'r Undeb Credyd yn ymrwymedig i helpu pobl i ddechrau cynilo. Mae gennym yn awr lawer o aelodau sydd am y tro cyntaf yn eu bywyd yn gallu talu am briodas, gwyliau neu gelfi newydd o'u cynilion eu hunain. Gall aelodau gynilo cyn lleied â dwy bunt yr wythnos a phlant un bunt. Rydym hefyd yn benthyca i'n haelodau. Rydym yn pwysleisio benthyca i'n haelodau am mae arian y mae ein haelodau wedi ei gronni yw'r arian a gaiff ei fenthyca. Mae eich arian mor ddiogel mewn undeb credyd â chydag unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu. I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn  Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 6 wythnos. Gallwch wedyn fenthyca hyd at 3 gwaith y swm rydych chi wedi'i gynilo. Bydd  benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio £4.10 yr wythnos. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Castell-nedd Port Talbot Cyf, 41-43 Heol Windsor, Castell Nedd, SA11 1NH. 01639 632 100.

 

Undeb Credyd Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn  Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Does dim rhaid i chi gynilo gyda'r undeb credyd cyn gwneud cais am fenthyciad ond mae rhaid i chi gwblhau ffurflen gais a rhoi dogfennau ychwanegol yn rhoi manylion eich incwm a'ch gwariant. Bydd  benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio £4.34 yr wythnos. Cyfradd o 2% a dim trefniant na ffioedd setliad cynnar. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei roi gyda phob benthyciad (gydag amodau). Gallwch ad-dalu eich benthyciad trwy archeb sefydlog, trwy eich cyflogres gyda rhai cyflogwyr (fel Cyngor Wrecsam) neu gyda'ch cerdyn aelodaeth yn Swyddfeydd Cyllid ac Ystadau'r Cyngor ledled y Fwrdeistref Sirol. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyf, 1 Arcade Gogledd, Stryd Chester, Wrecsam, LL13 8BB. 01978 266843 neu ymweled a http://www.wrexhamcu.co.uk/.

 

Undeb Credyd Benthyciadau a Chynilion Abertawe Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Dinas a Sir Abertawe. Mae 2 fath o fenthyciad ar gael wedyn. Benthyciad normal lle y mae'n rhaid eich bod wedi cynilo am leiafswm o 6 wythnos. Rydych chi wedyn yn gymwys i fenthyca tair gwaith eich cynilion. Mae gan hwn gyfradd llog o 1% y mis. Mae 'benthyciad cyfleus' hefyd ar gael ond does dim rhaid i chi gynilo o flaen llaw. Mae gan hwn gyfradd llog o 2% y mis. Bydd benthyciad arferol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio tua £18/19 y mis, gan ddibynnu ar y benthyciad a gawsoch chi. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda'r holl fenthyciadau a chynilion. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi hefyd dalu mewn swyddfeydd post ac allfeydd arall â cherdyn pwynt talu. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Benthyciadau a Chynilion Abertawe Cyf. 17, Stryd Cradock, Abertawe, SA1 3HE. 01792 643632. http://www.lasacreditunion.org.uk/.

 

Undeb Credyd Robert Owen Sir Drefaldwyn Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o  fewn Sir Drefaldwyn. Gallwch fod yn gymwys am fenthyciad parod o £150 i brynu cewynnau go iawn. Caiff y benthyciad ei ad-dalu ar gyfradd o £3 yr wythnos, gydag amod bod y cwsmer yn cynilo £2 ychwanegol yr wythnos (cyfanswm o £5 yr wythnos). Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda'r holl fenthyciadau a chynilion. Mae sawl pwynt casglu yn yr ardal lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol.  Gallwch chi hefyd dalu trwy archeb sefydlog. Gallwch chi gael eich budd-daliadau wedi'u talu'n syth neu trwy ddefnyddio cerdyn Pay Point. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Robert Owen Montgomeryshire Credit Union Ltd, 26 Stryd Marchnad, Drenewydd, Powys, SY16 2PD. 01686 623741.

 

Dragon Savers Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae 2 fath o fenthyciad ar gael: y cyntaf i rai sydd wedi ymuno â'r undeb credyd ac sydd wedi cynilo am o leiaf 8 wythnos. Mae hwn yn fenthyciad heb ei warantu. Yn ail benthyciad wedi ei warantu ac mae ar gael unrhyw bryd, gyda'r cyfan o'r benthyciad wedi ei warantu yn erbyn cynilion a gaiff eu cadw o fewn yr undeb credyd. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros flwyddyn yn costio o gwmpas £4.20 yr wythnos. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol. Mae mwy na 30 o bwyntiau casglu yn yr ardal lle y gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi hefyd dalu trwy archeb sefydlog neu gael eich budd-daliadau wedi'u talu'n syth i'ch cyfrif. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Dragon Savers Ltd, 107, Stryd Bute, Treorchy, CF42 6AU. 01443 777043. http://www.dragonsavers.org/.

 

Undeb Credyd Y Llechen Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Gwynedd neu Sir Ynys Mon. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 8 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros flwyddyn yn costio o gwmpas £4.10 yr wythnos. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Y Llechen Cyf, 41 Stryd Pool, Caernarfon,Gwynedd, LL55 2AE. 01286 678686.

 

Undeb Credyd Bargoed, Aberbargoed a Gilfach Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn ardal Bargoed, Aberbargoed, Gilfach neu Britannia. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 13 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 43 wythnos yn costio o gwmpas £5 yr wythnos. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi hefyd dalu mewn swyddfeydd post ac allfeydd arall â cherdyn pwynt talu, Archebion Sefydlog neu trwy'r gyflogres. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Bargoed, Aberbargoed a Gilfach Cyf, 47 Stryd Commercial, Aberbargoed, CF81 9BT. 01443 838605 bagcredunion@aol.com.

 

Undeb Credyd Splotlands Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn ardal Splott, Tremorfa neu Adamstown. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 12 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Does dim swm sefydlog, allwch chi taeniad cost tros 3 blwyddyn. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Splotlands Cyf, 34 Heol Splott, Splott, Caerdydd, CF24 2DA. 0292 033 4500.

 

Undeb Credyd Casnewydd Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Dinas a Sir Casnewydd. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 13 wythnos. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 18 mis yn costio o gwmpas £3 a £4 yr wythnos. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Casnewydd Cyf, 5 Arcade Marchnad, Stryd Uchaf, Casnewydd, NP20 1FS. 01633 214 913.

 

Undeb Credyd Cymdeithas Afan

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn  Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 13 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.10 yr wythnos. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Cymdeithas Afan, 33 Heol Commercial, Tailbach, Castell-nedd, SA13 1LN. 01639 888282.

 

Undeb Credyd Dyffryn Llynfi Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn ardal Maesteg. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 13 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.34 yr wythnos. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Dyffryn Llynfi Cyf, 15 Stryd Talbot, Maesteg, Pen y Bont, CF34 9BN. 01656 736 267.

 

Undeb Credyd Siriol Fro Morgannwg Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistrefi Sirol Fro Morgannwg. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 8 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio o gwmpas £4.09 yr wythnos. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol. (am oed 18 - 65). Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog neu PayPoint. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Siriol Fro Morgannwg Cyf, 115 - 116 Stryd Broad, Barry, Bro Morgannwg, CF62 7AL. 01446 722 022.

 

Undeb Credyd Haven Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Sir Benfro. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 12 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.10 yr wythnos. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Haven Cyf, 44 Stryd Siarl, Aberdaugleddau, Sir Benfro, SA73 3AE.  0164 6694080

 

Undeb Credyd Aberhonddu

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn ardal Aberhonddu. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 12 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca tair gwaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £50 gallech chi fenthyca hyd at £150. Bydd benthyciad nodweddiadol o £100 a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio £8.88 yr mis a llog. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Aberhonddu, 9 Cwrt Afon, 15/16 Stryd Castell, Aberhonddu. LD3 9BU. 01874 620104 neu e bost breconcu@btconnect.com www.brecon-credit.org.uk.

 

Undeb Credyd Red Kite

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn canolog Powys ( http://www.redkitecreditunion.co.uk/ am fwy wybodaeth). Mae'n rhaid i chi talu £1 am aelodaeth. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.09 yr wythnos. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Red Kite. 20, Stryd Marchnad, Builth Wells, LD2 3EA. 01982 551000. enquiry@redkitecreditunion.co.uk neu http://www.redkitecreditunion.co.uk/.

 

Undeb Credyd Gateway Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistrefi Sirol Torfaen neu Sir Fynwy. Mae 2 fath o fenthyciad ar gael wedyn. Benthyciad ‘save as you borrow' lle y mae'n rhaid eich bod wedi cynilo am leiafswm o 8 wythnos. Rydych chi wedyn yn gymwys i fenthyca tair gwaith eich cynilion. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.09 yr wythnos. Mae 'benthyciad cyfleus' hefyd ar gael ond does dim rhaid i chi gynilo o flaen llaw. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.33 yr wythnos. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae 6 pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Gateway Cyf, 21 Stryd Commercial, Pont-y-pwl, Torfaen. NP4 6JQ. 01495 750020. http://www.gatewaycu.co.uk/.

 

Undeb Credyd Landsker

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o  fewn Sir Gaerffyrddin neu Sir Benfro. Ar ôl i chi wneud eich cais bydd yn mynd i banel a byddan nhw'n penderfynu a gaiff y benthyciad ei gymeradwyo ai peidio. Bydd  benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio £4.50 yr wythnos. Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad. Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog neu PayPoint. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Landsker, Picton Tce, Spring Gardens, Arbeth. SA67 7BN. 01834 861382. Landskercreditunion@btconnect.com http://www.landskercreditunion.co.uk/.