Helo, fy enw i yw Rhian Green neu ‘mami‘ i Gruffydd, Dafydd a Bethan. Pan gafodd yr henaf ei eni 6 mlynedd yn ôl roeddwn yn sicr:
-
fy mod i am fwydo o'r fron, neu o leiaf drio ‘ngorau i wneud hynny!
-
fy mod i am ddefnyddio cewynnau clwt.
-
fy mod i am fwyta mwy o fwyd organig a lleol.
Roedd y tri pheth hyn yn bwysig i mi - yn ogystal â magu'r tri'n ddwyieithog wrth gwrs!
Roedd y teulu a'm ffrindiau'n dwlu ar y cewynnau hwylus hwyliog a ddefnyddiais ar Gruffydd a chychwynnais eu cynorthwyo a'u cynghori ar sail fy ngwybodaeth newydd am gewynnau. Ers hynny mae'r neges wedi mynd ar led, ac o hynny daeth mamigreen! Rwyf fi nawr yn gweithio fel nyrs pediatrig rhan-amser ac ‘ymgynghorydd cewynnau clwt' ac yn trefnu hynny o gwmpas anghenion fy nheulu. Bethan bellach yw fy mhrif brofwr cewynnau ac ar y cyfan mae'n fodlon ac yn gyfforddus iawn yn ei chewynnau clwt ffasiynol a hwyliog.
Fel mam a nyrs pediatrig, credaf mai'r hyn sy'n allweddol i gysur y babi yw natur y defnydd sy'n cyffwrdd yn uniongyrchol â chroen sensitif y babi. Mae pawb yn gwneud yn siŵr eu bod yn dewis dillad babi o gotwm meddal, felly pam esgeuluso pen-ôl eich babi trwy ddefnyddio cewynnau wedi eu gwneud o bapur, plastig a chemegolion.
Y dyddiau hyn, rwyf fi'n credu bod y rhan fwyaf ohonom ni'n ceisio gwneud ‘ein rhan' o ran yr amgylchedd a dyfodol ein plant. Drwy ddewis cewynnau clwt a deunyddiau gofal babi organig a naturiol, r'ych chi'n gwneud ffafr â'ch babi ac â natur.
Os oes ‘da chi unrhyw sylwadau, awgrymiadau neu brofiadau cewynnau clwt yr hoffech chi eu rhannu neu os ‘ych chi angen rhywbeth nad ‘ych chi'n ei weld fan hyn, cysylltwch â mi. Rwyf fi bob tro'n croesawu adborth - dyma sy'n gwneud mamigreen yn wasanaeth gwell - felly gadewch i'r syniadau lifo!
Hwyl i chi ar y cewynnu clwt!
Rhian








